Freitag, 19. März 2010

Dim yn hir tan y Pasg

Yn ystod y cyfnod hwn 'rwy'n hoffi clywed y Angerdd Pasg gan Johann Sebastian Bach (tair awr!) gyda thema o ddioddef a marwolaeth Iesu. 'Rwy'n cofio y geiriau alweddol yn Almaeneg neu yn y Gymraeg pan oeddwn i'n aelod yn Eglwys y Crwys, Eglwys Bresbyteraidd, yng Nghaerdydd yn iawn:

"Fel dych chi’n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i gael fy nghroeshoelio."

"Wir i ti," meddai Iesu wrtho, "heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i."
Ond meddai Pedr, "Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!"

(St. Matthew Passion / Efengyl Mathew)






Mae dathliadau y Pasg yng Nghymru yn tipyn bach yn wahanol na yn Yr Almaen. Os ydych chi'n gristnogol 'rydych chi'n efallai mynd i'r eglwys neu capel ymhob man.

Pan oeddwn i'n plentyn mi oeddwn i'n edrych am wyau paentio llachar a candy a oedd yn cuddio gan y "Bunny Pasg". Mae oedolion yn rhoi anrhegion at ein gilydd. Mae llawer o deulioedd yn cael brecwast arbennig wrth y bwrdd, sy wedi cael ei addurno'n hyfryd iawn. Mae llawer yn mynd allan amser cinio i gael bryd o fwyd mewn ty bwyta neu cael brunch mewn caffi ar y ddydd Sul.



'Rwy'n arddurno canghennau gyda wyau pasg wedi cael ei phaentio yn lliwgar yn y ty. Traddodiad! Eleni, mae 'na llawer o wyau ty allan ein ty ni ym Machynlleth hefyd. Fel gacen y Pasg 'rydyn ni'n cael cacen mewn siap cwningod neu oen. Mae cinio y Pasg yn sbesial, yn aml mae pobol yr Almaen yn cael cig oen ar ddydd Sul y Pasg. Mae tân Pasg yn cael eu cynnau ar benwythnos y Pasg mewn nifer o leoedd o ganlyniad i arferion amrywiol. Ar nos Sadwrn y Pasg byddwn yn cwrdd gyda chwrw neu gwin cynnes a BBQ o gwmpas y tan. Mae'r arfer yn dyddio'n ôl i gyfnod hynafol a gwasanaethodd i ffarwelio y gaeaf, llosgi (effaith glanhau ac yn gwarchod yr hadau egino o ysbrydion drwg). Mi oedd y bore Pasg draddodiadol wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, er enghraifft fel yr awdur Johann Wolfgang von Goethe (1749-1832).